“Pleidleisiwch o blaid Cymru” – Llywodraeth uchelgeisiol newydd ar gyfer amseroedd cyfnewidiol

Plaid Cymru yn dadorchuddio slogan etholiadol gan addo i adleisio "ysbryd '99"

Mae'r etholiad nesaf yn gyfle "adleisio ysbryd 1999 – ysbryd optimistiaeth, gobaith, dechrau newydd gyda llywodraeth newydd."

Dyna neges Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wrth i'r blaid lansio eu hymgyrch etholiadol fwyaf cadarnhaol yn ei hanes.

Wrth dadorchuddio slogan y blaid ar gyfer yr ymgyrch – O Blaid Cymru' – dywedodd Adam Price fod yr etholiad yn gyfle i ethol llywodraeth wedi ymrwymo i greu "Cymru decach, wyrddach" fydd yn gallu ffynnu drwy gymryd rheolaeth dros ei materion ei hun.

Ychwanegodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS a fydd yn gweithredu fel Cyfarwyddwr yr Ymgyrch y byddai'r cyfnod sy'n rhedeg hyd at Fai 6ed yn canolbwyntio ar nodi sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflawni "newid trawsnewidiol", yn hytrach na setlo sgorau gwleidyddol.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:

"Pleidleisiwch o blaid Gymru. Mae'n amlwg yn dyw e? Dyna beth rydyn ni'n ei wneud yn ein bywyd bob dydd, p'un a yw'n cefnogi Cymru mewn chwaraeon neu'n chwifio'r ddraig gyda balchder ble bynnag yr ydym yn y byd.

“Ar Fai'r 6ed gallwn fynd a’r balchder sydd gennym yn ein cenedl i'r blwch pleidleisio.

“Beth am adleisio ysbryd 1999 - ysbryd optimistiaeth, gobaith, dechrau newydd gyda llywodraeth newydd.

“Drwy wneud y penderfyniad hwnnw i bleidleisio dros Gymru, pleidleisiwn dros ein plant, i roi'r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.

“Rydym yn pleidleisio dros ein pobl ifanc, i roi iddynt y swyddi y mae arnynt eu hangen a'r gobaith y maent yn ei haeddu.

“Rydym yn pleidleisio dros system iechyd a gofal cymdeithasol a wneir yng Nghymru i ateb heriau unigryw Cymru.

“Dywed hanes wrthym na fydd yr un blaid gyda pencadlys yn San Steffan byth yn cyflawni dros Gymru.

“I Blaid Cymru, Ni fydd Mai 6ed yn nodi diwedd ein hymgyrch ond megis ei dechrau – dechrau yr ymgyrch i adeiladu dyfodol tecach, gwyrddach lle mae ein gwlad yn ffynnu drwy gymryd rheolaeth dros ei materion ei hun a rhyddhau ei photensial mwyaf – ei phobl."

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ymgyrch, Liz Saville Roberts AS:

"Ar ôl 20 mlynedd o ddirywiad dan reolaeth y blaid Lafur yng Nghymru a chyda phlaid Dorïaidd ddinistriol iawn yn San Steffan, bydd pleidlais o blaid Cymru yn gosod y genedl ar lwybr newydd uchelgeisiol.

“Bydd Plaid Cymru yn cynnal ei hymgyrch fwyaf cadarnhaol erioed, gan ganolbwyntio ar newid trawsnewidiol, nid ar setlo sgorau gwleidyddol.

“Mae pandemig Covid-19 wedi dangos yr angen am Lywodraeth newydd yng Nghymru sy’n gallu gweithio yn effeithiol, yn glir ac yn benderfynol. Mae hefyd angen arnom Prif Weinidog sy'n barod i barhau hyd ddiwedd y daith.

“Heb os, bydd hon yn ymgyrch fel dim arall ond boed yn yr orsaf bleidleisio neu drwy'r post, mae pleidlais i Blaid Cymru yn bleidlais o blaid Cymru."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Hugh Kocan
    published this page in Newyddion 2021-01-08 13:25:27 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.