Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf – sydd werth hyd at £300 – nawr yn cael ei gwtogi trwy brawf modd. Dim ond pensiynwyr ar Gredyd Pensiwn neu rhai budd-daliadau eraill fydd yn ei dderbyn. Gallai'r toriad hwn adael hanner miliwn o bensiynwyr yng Nghymru yn waeth eu byd.
Bydd cwtogi’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn rhoi iechyd pobl mewn perygl, gan roi hyd yn oed mwy o bwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd.
Mae Plaid Cymru yn credu y dylai pensiynwyr gael y gefnogaeth hanfodol hon i gadw’n gynnes y gaeaf hwn ac yn galw ar y Llywodraeth Lafur i wrthdroi’r toriadau creulon hyn.
👉 Cefnogwch ymgyrch Plaid Cymru i stopio'r toriadau i'r Taliad Tanwydd Gaeaf
Y Taliad Tanwydd Gaeaf
Mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer aelwydydd sy’n cynnwys rhywun sydd dros 65 oed.
Mae aelwydydd yn cael hyd at £300 i helpu gyda chostau gwresogi yn y gaeaf.