Gwaith atgyweirio'r Bont Wen, Pontypridd, ar gychwyn

FruitMonkey, CC BY-SA 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0>, via Wikimedia Commons

Y Cynghorydd Heledd Fychan - A.S. ar gyfer Canol De Cymru wedi croesawu cyhoeddiad RhCT bod disgwyl i'r gwaith ddechrau ar atgyweirio'r Bont Wen. Mae'r bont wedi bod ar gau ers Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, gan achosi anhrefn i ddefnyddwyr y ffordd ac effeithio'n aruthrol ar ansawdd bywyd llawer o drigolion Ffordd Berw.

Daw'r newyddion hyn 3 wythnos yn unig ar ôl lansio deiseb yn galw am weithredu ar frys.

Dyma sut adroddwyd RCT newyddion ar eu gwefan:

Bydd gwaith cychwynnol i atgyweirio Pont Heol Berw, Pontypridd, yn dechrau ddydd Llun, a hynny yn dilyn penodi contractwr. Mae'n bosibl y bydd modd ailagor y bont dros dro yn ystod yr haf, cyn i'r Cyngor fwrw ymlaen â'r rhaglen atgyweirio lawn y flwyddyn nesaf.

Mae cwmni Kaymac Marine and Civil Engineering Cyf wedi'i benodi i atgyweirio'r argloddiau, yn ogystal â chynnal gwaith ar y pier ac ymyl yr afon. Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal o fewn yr afon.  Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 7 Mehefin ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf. Yn ystod yr wythnos gyntaf, bydd y contractwr yn cludo peiriannau a deunyddiau i'r safle gan ddefnyddio trac mynediad oddi ar Heol Berw.

Efallai y bydd hyn yn aflonyddu rhywfaint ar ddefnyddwyr y briffordd, ond y bwriad yw cludo nwyddau i'r safle ar adegau llai prysur, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch chi. Cyn bo hir, bydd y contractwr yn anfon llythyr at breswylwyr lleol er mwyn amlinellu natur ac amserlen y gwaith. Bydd y contractwr yn defnyddio ymyl y ffordd sydd gyferbyn â'r bont, ble mae preswylwyr fel arfer yn parcio'u ceir, i gael mynediad i'r safle.

Unwaith fydd y gwaith wedi'i gwblhau, caiff archwiliad manwl o'r bont ei gynnal er mwyn gweld p'un a oes modd ei hailagor i draffig dros dro. Byddai angen rhoi cyfyngiad pwysau ar waith nes bod modd cynnal atgyweiriadau pellach y flwyddyn nesaf.

Cafodd y Bont Wen ei difrodi'n ddifrifol yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, ac mae wedi bod ar gau er hynny er diogelwch y cyhoedd. Mae'r bont restredig wedi bod dan ofal cwmni ymgynghori Redstart, ac mae'r Cyngor wedi gweithio gyda Cadw er mwyn trefnu'r caniatâd priodol ar gyfer cyflawni'r gwaith atgyweirio. Ystyriaeth bwysig arall sy'n cymhlethu'r cynllun ymhellach yw'r brif bibell nwy sy'n rhan o'r bont.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Huw Day
    published this page in Newyddion 2021-06-06 13:32:53 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.