AELODAU YN UNIG
Cynhelir Ysgol Haf Plaid Cymru ar Orffennaf 26-28 yn Galeri, Caernarfon.
Mae'r Ysgol Haf yn gyfle gwych i aelodau'r Blaid ddatblygu ein sgiliau ymgyrchu, gwella ein haddysg wleidyddol, a chryfhau ein perthnasau o fewn y Blaid.
Cost yr Ysgol Haf yw £15 i bob aelod (£10 i bawb sydd â chyflog dan £15,000 y flwyddyn).
Er mwyn cadarnhau eich lle, cliciwch yma er mwyn anfon RSVP ac i dalu. Oes oes gyda chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch gyda Fflur Elin ([email protected]).
Mae dal amser i chi gofrestru ar gyfer yr Ysgol Haf ond gofynnwn i chi gwneud hyn cyn gynted â phosib er mwyn i ni wybod y niferoedd bydd yn mynychu.