PLAID CYMRU YN DEWIS YMGEISYDD IFANC I FOD YN LLAIS NEWYDD I BONTYPRIDD YN SAN STEFFAN

Aelodau lleol Plaid Cymru Pontypridd yn dewis Wiliam Rees, 25, i fod yn “lais newydd i Bontypridd” yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Mae Wiliam Rees, 25, yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru ym Mhontypridd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Yn cyhoeddi ei ymgeisyddiaeth, dywedodd Wiliam Rees, “Dwi eisiau bod yn llais newydd i Bontypridd yn San Steffan. Dwi eisiau fod yn AS a fydd yn gwrando ar drigolion lleol ac yn gweithredu ar eu rhan. 

“Mae’n bwysicach nag erioed i ethol grŵp cryf o ASau Plaid Cymru yn yr etholiad nesaf i frwydro dros degwch i Gymru. Ni yw’r unig blaid sy’n mynnu bargen ariannu decach i Gymru fel y gallwn fuddsoddi yn yr economi, y GIG ac ysgolion ar draws Pontypridd. Gyda’r Ceidwadwyr yn debygol o wynebu colledion enfawr, mae angen llais cryf Plaid Cymru yn San Steffan a fydd yn gadael i Keir Starmer wybod na all e gymryd Pontypridd na Chymru yn ganiataol.”

Gan bwysleisio ei ymrwymiad i wrando ar bobl leol, meddai Wiliam “Rydw i eisiau helpu i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan gynifer i wneud Pontypridd yn lle gwell fyth i fyw a gweithio ynddo. Yn ystod yr ymgyrch hon, rwy’n gobeithio gallu cyfarfod a gwrando ar gynifer o bobl, sefydliadau a busnesau lleol â phosibl am yr hyn sy’n bwysig iddynt, a sut y gallwn flaenoriaethu’r materion hynny yn yr ymgyrch hon.”

Wrth siarad ar ôl y cyhoeddiad, dywedodd yr Aelod Senedd Lleol a Chynghorydd Tref Pontypridd, Heledd Fychan AS, “Byddai William yn AS rhagorol dros ein cymunedau ar draws Pontypridd. 

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi ei ymgyrch dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ar ôl gweithio’n agos gyda Wiliam dros y blynyddoedd diwethaf ers cael fy ethol i’r Senedd, gwn y bydd yn gweithio’n galed ar ran pobl Pontypridd.

“Nawr yn fwy nag erioed mae angen llais newydd i Bontypridd, a rhywun fydd yn llais i ni gyd yn San Steffan, nid llais San Steffan ym Mhontypridd felly mae Wiliam yn cael fy nghefnogaeth lawn.”

Wrth gefnogi ymgyrch Wiliam, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, “Rwy’n falch o weld Wiliam yn cael ei ddewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ym Mhontypridd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol nesaf, na all ddod yn ddigon buan. Byddai'n gwneud AS gwych dros Bontypridd. Byddai’n wych ei weld yn ymuno â’r tîm o ASau diwyd Plaid Cymru yn San Steffan, gan sefyll dros Bontypridd a dal traed pleidiau Llundain i’r tân pan ddaw’n fater o frwydro dros degwch i Gymru.

“Ar ôl cael fy ngeni yn Nhonteg fy hun, mae Pontypridd yn lle arbennig i mi a dyna pam mai fy ymweliad swyddogol cyntaf erioed fel arweinydd Plaid Cymru llynedd oedd i Goleg y Cymoedd yn Nantgarw, ochr yn ochr â Heledd Fychan AS i ddangos uchelgais Plaid Cymru i ddarparu’r cyfleoedd gorau i bobl ifanc yng Nghymru.

“Rwy’n gwybod y bydd Wiliam yn gweithio’n galed i sefyll dros drigolion lleol wrth geisio gwella bywydau pobl ledled Pontypridd. Dylai pobol bleidleisio dros Wiliam Rees a Phlaid Cymru i roi Pontypridd a buddiannau gorau Cymru yn gyntaf, cadw’r Torïaid allan ac atal Llafur rhag cymryd Cymru’n ganiataol.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-04-22 12:06:25 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.