Cariwch bag neu Codwch Ddirwy!
Cyhoeddodd Plaid Cymru RhCT addewid maniffesto cynnar yn dilyn adborth o arolygon ledled RhCT.
Bydd Cyngor dan reolaeth Plaid Cymru ym mis Mai yn ymgynghori ar gyflwyno rheol newydd sy'n gofyn i gerddwyr cwn gario bag neu ddull arall i lanhau ar ôl eu hanifail anwes neu byddant yn wynebu dirwy.
Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg hwn. Mae hon yn enghraifft berffaith o 'Wleidyddiaeth Gymunedol' sydd ei angen arnom.
Byddai’r rheol yn ei gwneud yn angenrheidiol i gerddwyr cwn allu darparu tystiolaeth o "sut y byddant yn codi’r baw”. Os na all perchennog y ci ddangos tystiolaeth i swyddog gorfodaeth fydd a’r hawl i holi unrhyw gerddwr ci ar y mater, bydd trosedd wedi ei chyflawni a gallant roddi dirwy posibl o £75 os na fydd y perchennog yn gallu dangos ffordd o godi baw ci.
Er bod y rhan fwyaf o berchnogion cwn yn berchnogion cyfrifol, mae’r rheol newydd arfaethedig wedi'i gynllunio i dargedu perchnogion cwn anghyfrifol sy'n methu codi baw ci am nad ydynt yn cario y modd i wneud hynny. Mae baw ci yn fath annerbyniol a niweidiol o sbwriel.
Mae ein plant yn haeddu meysydd chwarae a meysydd chwaraeon glân ac rydym i gyd yn haeddu strydoedd a mannau cyhoeddus heb faw ci.