Galwn ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gadw cangen Ynysybwl o feddygfa Cwm Taf ar agor
Byddai cau ein meddygfa ni yn Ynysybwl yn cael effaith enfawr ar gleifion, sydd eisoes yn cael trafferth i sicrhau apwyntiadau.
Does dim car gyda nifer fawr o gleifion a gallant, ar hyn o bryd, gerdded i gangen Ynysybwl. Mae diffyg gwasanaethau bws digonol eisoes yn golygu bod cleifion yn colli apwyntiadau hanfodol gyda meddygon teulu ac ysbytai mewn mannau eraill.
Ar gyfer cleifion hŷn, neu'r rhai sy'n llai symudol efallai, mae mynd ar fws i Glyncoch, Rhydfelen neu Dewi Sant yn golygu dal dau fws. Bydd hyn ond yn arwain at golli mwy o apwyntiadau neu pobl yn dewis peidio â cheisio triniaeth.
Plîs gwrandewch ar ein barn, a chadwch gangen Ynysybwl ar agor.