Pam ddylwn i gofrestru i bleidleisio?
Os nad ydych yn cofrestru, ni allwch bleidleisio!
Os nad ydych yn cofrestru, ni allwch bleidleisio - mae mor syml â hynny.
I bleidleisio yn yr etholiad y Cyngor, mae'n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol. Mae cofrestru'n hawdd.
Gallwch gofrestru ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Mae'n rhoi llais i chi o ran pwy all eich cynrychioli chi ar y Cyngor.
Mae gallu pleidleisio hefyd yn rhoi llais i chi ar bwy sy'n eich cynrychioli chi yn eich cyngor lleol, Senedd y DU ac yn Ewrop.
Mewn unrhyw etholiad yn eich ardal bydd un o'r ymgeiswyr yn cael eu dewis i'ch cynrychioli p'un a eich bod yn pleidleisio ai peidio. Os ydych wedi'ch cofrestru, bydd gennych gyfle i ddweud eich dweud ar bwy sy'n eich cynrychioli drwy bleidleisio.
Mae rhai pobl yn ei chael hi'n hawdd cwyno pan eu bod yn anghytuno gyda gwleidyddol, ond os nad ydych yn cofrestru na phleidleisio, ni fyddwch yn cael dweud eich dweud.
Mae pobl ym mhob cwr o'r byd wedi marw'n ymladd am yr hawl i bleidleisio ac i fod yn rhan o ddemocratiaeth.
Mae pobl ym mhob cwr o'r byd wedi marw'n ymladd am yr hawl i bleidleisio ac i fod yn rhan o ddemocratiaeth - drwy gofrestru i bleidleisio byddwch yn dangos eich bod yn credu fod yr hawl honno yn bwysig.
Yn y DU, llai na chanrif yn ôl, lladdwyd pobl yn ystod eu brwydr i gael y bleidlais i fenywod. Yn Ne Affrica, nid oedd pobl dduon yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf hyd nes ddiwedd yr apartheid yn 1994. Heddiw, gwadir yr hawl i bleidleisio i nifer o bobl ledled y byd.
Mae'n rhoi'r hawl i chi ddweud eich dweud am faterion pwysig sy'n effeithio arnoch chi.
Popeth o ffyrdd ac ailgylchu yn eich ardal chi i addysg a newid yn yr hinsawdd - efallai eich bod chi'n credu nad ydych chi am bleidleisio nawr, ond os oes rhywbeth yn codi yr ydych am leisio barn amdano, os ydych chi ar y gofrestru, bydd cyfle gyda chi bleidleisio arno. Cofiwch, nid yw cofrestru i bleidleisio yn golygu fod yn rhaid i chi wneud, mae'n golygu eich bod chi'n gallu os dymunwch.
Mae'n hawdd!
Ni fydd cofrestru i bleidleisio yn cymryd llawer o amser.
Gallwch gofrestru ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.