Llwyddiant!! Mae'r Cyngor wedi gwrando a wedi newid y peiriannu tocyn parcio! Darllen mwy YMA
"Mae'n Amser i RhCT Ymuno â'r 21ain Ganrif"
Dyna alwad Cynghorydd Tref Pontypridd, Dawn Wood.
Yn dilyn Pandemig Covid, mae’r defnydd o Gardiau Debyd a Chredyd i dalu am bob eitem o siopa wedi cynyddu’n aruthrol. Cymaint fel nad yw llawer o bobl bellach yn cario arian parod gyda nhw. Yn y rhan fwyaf o feysydd parcio ledled y wlad gellir talu naill ai ag arian parod neu gerdyn, ond nid yn RhCT.
Mae angen cymaint o gefnogaeth â phosibl ar Ganol ein Trefi ac mae annog cymaint o bobl â phosibl i'w defnyddio yn un cam hawdd y gall y Cyngor ei gymryd. Dyna pam yr wyf yn lansio’r ddeiseb hon yn galw ar RCT i ganiatáu talu â cherdyn yn ei feysydd parcio ledled y sir.
Os hoffech chi arwyddo cliciwch yma.
Yn anghredadwy, nid yn unig y mae RhCT wedi anwybyddu galwadau i gyflwyno Taliad â Cherdyn (ochr yn ochr â thalu arian parod) ond mae bellach wedi dileu'r opsiwn o dalu â cherdyn ym Maes Parcio'r Santes Catrin ym Mhontypridd.