Dathlu 75 mlynedd o'r GIG yng Nghymru a brwydro dros ei ddyfodol

Wrth i Gymru ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), mae’r Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi talu teyrnged heddiw i staff rheng flaen ymroddedig sydd wedi darparu gwasanaeth a gofal amhrisiadwy ar hyd y blynyddoedd.

Rhybuddiod hefyd bod ein GIG mewn argyfwng. Mae tair blynedd ar ddeg o doriadau Torïaidd, ynghyd â phedair blynedd ar hugain o gamreoli Llafur, wedi gadael ein system gofal iechyd ar ei gliniau, gyda chanlyniadau iechyd gwaeth a gweithlu dan straen aruthrol. Mae angen gweithredu brys i sicrhau y bydd ein GIG yn goroesi am y saith deg pump mlynedd nesaf.

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i adfer ymddiriedaeth rhwng cleifion a'n system gofal iechyd drwy roi diwedd ar gamreoli cronig. Mae ein cynllun 5 pwynt yn cynnwys recriwtio a chadw mwy o feddygon a nyrsys drwy gynnig cyflog tecach ac amodau gwaith gwell, gan wneud ein GIG yn lle deniadol i weithio. Byddwn yn mynd i'r afael ag amseroedd aros trwy fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, gan sicrhau trosglwyddiad di-dor o iechyd i ofal cymdeithasol. Bydd mesurau iechyd ataliol yn cael eu blaenoriaethu gyda'r nod o fynd i'r afael â materion iechyd cyn iddynt ddod yn ddifrifol, gan leihau'r straen ar ein system gofal iechyd.

Wrth siarad ar y pen-blwydd dywedodd Heledd Fychan AS: "Mae'r GIG wedi cyffwrdd â'n bywydau ni i gyd ac allwn ni ddim dychmygu bywyd heb y gwasanaeth hwn. Dyna pam mae'n rhaid i ni frwydro i sicrhau ei ddyfodol.  

"Sefydlwyd y GIG ar yr egwyddor y dylai gofal iechyd fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u cefndir. Dros y blynyddoedd, mae ein harwyr gofal iechyd wedi dangos dewrder, tosturi a gwydnwch. Maent wedi wynebu aberthau personol, yn enwedig yn ystod y pandemig, ac eto nid yw eu hymroddiad i'n lles erioed wedi gwanhau.

"Ond mae’r gwasnaeth mewn sefyllfa argyfyngus. Wrth ymweld ag ysbytai, llinellau piced a siarad â gweithwyr y GIG dros y flwyddyn ddiwethaf, maen’t wedi disgrifio system sydd wedi torri.  Alwn ni ddim gwadu ymroddiad a gwaith caled ein staff yn y GIG. Maen nhw wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau ein bod yn derbyn y gofal rydyn ni'n ei haeddu a rwan mae nhw angen ein help. 

"Wrth i ni ddathlu hanes anhygoel y GIG yng Nghymru, mae'n rhaid i ni wneud popeth posibl i warchod a hyrwyddo ein gwasanaeth iechyd i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol barhau i elwa o ofal gwych ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-07-05 14:40:32 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.