Hyb Cynnes Newydd i Bentre'r Eglwys
Mae Hyb Cynnes newydd ar gael yn rheolaidd ym Mhentre’r Eglwys, diolch i wirfoddolwyr o Eglwys Illtud Sant.
Bydd Hyb Cynnes bob dydd Iau 1af, 3ydd, a 4ydd o’r mis o 9 a.m. – 12 canol dydd yng Nghanolfan Tŷ Illtud, (Heol Illtud Sant, Pentre’r Eglwys, Pontypridd, CF38 1EB).
Gofynnodd un o drigolion lleol, Ioan Bellin, gwestiwn fis diwethaf yng Nghyngor Cymuned Llanilltud Faerdref yn amlygu manteision cael Hyb Cynnes yn y gymuned.
Dywedodd Aelod Plaid Cymru, Ioan Bellin:
“Tra bod y bai am yr argyfwng costau byw hwn yn San Steffan yn gorwedd yn Downing Street, mae’r effaith yn golygu ein bod ni i gyd yn teimlo’r pwysau.
Cost biliau, tanwydd, a’r siop fwyd i godi – ond nid yw ein pecynnau cyflog yn cadw i fyny.
Nid yw'n deg bod teuluoedd yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd tra bod cwmnïau ynni mawr yn gwneud yr elw mwyaf erioed. Ar lefel leol mae'n anodd dylanwadu ar y cwmnïau mawr hynny.
Rwy’n falch y byddwn yn gweld Hyb Cynnes ym Mhentre’r Eglwys.
Gwn o siarad â Chynghorwyr Plaid Cymru sy’n cynrychioli cymunedau fel Ynysybwl a Phontypridd sut y bu i’r Hybiau Cynnes hyn helpu llawer o bobl yn eu cymunedau y llynedd.
Nid cadw pobl yn gynnes yn unig a wnaeth yr Hybiau Cynnes, roeddent o fudd i’r canolfannau cymunedol a ddefnyddiwyd, oherwydd eu bod yn llawn. Fe wnaeth Hybiau Cynnes gysylltu pobl ar ôl y pandemig a dechrau mynd i’r afael ag unigrwydd yn ein cymunedau.”