Covid Inquiry

mask

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r dystiolaeth a roddwyd gan Vaughan Gething AS, cyn Weinidog Iechyd Cymru, ac ymgeisydd Prif Weinidog Llafur, i Ymchwiliad Covid y DU heddiw, 11 Mawrth 2024.

 

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal: Yr hyn sy’n amlwg o dystiolaeth shambolig heddiw yn ymchwiliad Covid y DU yw nad oedd Llywodraeth Lafur Cymru yn barod ar gyfer Covid.

 

Nodir bod Vaughan Gething wedi dweud wrth y Cabinet nad oedd unrhyw achosion yn y DU ar ddiwedd mis Chwefror 2020. Er na fu erioed yn dadlau yng nghofnodion cyfarfodydd lle nodwyd hyn a hyd yn oed wedi’i ailadrodd yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad, mae bellach wedi mynd â hyn yn ôl.

Ni wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru drin Covid fel argyfwng tan ddechrau mis Mawrth 2020. Roedd eu stoc PPE y math anghywir, ac ni ellid ei ddefnyddio er eu bod yn gwybod bod pandemig coronafirws yn debygol.

Roedd Plaid Cymru yn dweud nôl ym mis Mawrth 2020 y dylai Llywodraeth Cymru ohirio gemau’r Chwe Gwlad, ond golchodd Vaughan Gething fel Gweinidog Iechyd ei ddwylo cyfrifoldeb a chynghori URC i benderfynu eu hunain beth i’w wneud.

Dysgon ni hefyd ei fod yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb am ei negeseuon Whatsapp sy'n diflannu. Mae’n dweud na chafodd penderfyniadau eu gwneud dros WhatsApp – ond mae tystiolaeth gan gynghorwyr arbennig y Llywodraeth yn dweud fel arall.

Heb os, bydd mwy o gwestiynau heb eu hateb ar ôl heddiw. Gwyddom, heb amheuaeth, fod y modd yr ymdriniodd Llywodraeth Geidwadol y DU â Covid yn ofnadwy. Ond yng Nghymru, mae’n dod yn amlwg bod diffyg parodrwydd siambaidd y Llywodraeth Lafur wedi cael effaith hir-barhaol, ddinistriol ar Gymru. Mae’r achos dros ymchwiliad Covid-benodol i Gymru yn gliriach nag erioed.”

 

Roedd Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ohirio Chwe Gwlad 2020 fis cyn i gêm Cymru-yr Alban gael ei gohirio ym mis Mawrth 2020:

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-51853674

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.