Plaid Cymru heddiw'n cyhoeddi mai Heledd Fychan yw ymgeisydd ward Tref Pontypridd.
Wrth gyhoeddi ei ymgeisyddiaeth, dywedodd Heledd Fychan:
Fy enw i yw Heledd a byddaf yn sefyll dros Blaid Cymru yn etholiadau'r cyngor eleni.
Rwy'n byw ar Hillside View gyda fy nheulu. Fel llawer ohonoch, rwyf yn poeni am ddyfodol Pontypridd ac rwyf wedi cael llond bol o weld gwasanaethau hanfodol yn cael eu torri.
Fel llywodraethwr ysgol leol a mam, yr wyf wedi gweld yr effaith mae toriadau RhCT wedi ei gael ar addysg. Mae ein plant yn haeddu gwell.
Fel aelod o fwrdd Cymdeithas Amgueddfeydd y DU, yr wyf hefyd wedi ymgyrchu yn erbyn toriadau i'n Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd a Chanolfannau Celfyddydol (megis y Miwni). Maent yn adrodd ein hanes o ran pwy ydym ni a phwy rydym eisiau bod, ac ni ddylid eu hystyried yn darged hawdd er mwyn canfod arbedion.