Pryder Plaid Cymru Ynghylch Colli Swyddi Posib Yn General Electric Nantgarw

GE.png

Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryder i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith colli swyddi posib yng ngwaith General Electric yn Nantgarw.

Dywedodd Helen Mary Jones, Llefarydd yr Wrthblaid ar Economi, Cludiant a Mynd I’r Afael â Thlodi:    

“Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cwestiwn testunol i’r Senedd yn gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ar y colli swyddi posib yma. Mae’r cyfnod hwn yn amser anodd i lawer o gwmnïau a hynny’n dilyn y cyhoeddiad gan Airbus yng ngogledd y wlad. Er fy mod yn croesawu penderfyniad rheolwyr General Electric i drafod gyda’r gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur ynghylch diswyddo gwirfoddol, heb os nac oni bai, bydd raid i Lywodraeth Cymru roi cefnogaeth sylweddol i rai o’r gweithwyr fydd yn gadael y cwmni.’’ 

Ychwanegodd Heledd Fychan, Cynghorydd Rhondda Cynon Taf dros Dref Pontypridd:   

“Mae GE Aviation yn gyflogwr lleol pwysig ac mae’r newyddion yma’n achosi cryn bryder ar amser pan mae’r economi lleol yn barod dan bwysau difrifol. Rydym wedi dioddef, nid yn unig gan effaith Covid-19 ond hefyd drwy geisio goresgyn y llifogydd difrodus ddaeth i’n hardal ym mis Chwefror. Mae’n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd i gefnogi GE a’i weithwyr ar hyn o bryd.’’  

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.