Chad ydw i a hoffwn gyflwyno fy hun. Mae ein cynghorydd lleol Martin Fiddler Jones wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd yn camu i lawr rywbryd yn y gwanwyn.
Mae gen i wreiddiau yma a chefais fy magu yn yr ardal hon, felly hefyd fy Mam, Debbie, a fy Nain a Thaid, Mary a Robert. Mynychais Babanod Glantaf, Parc Lewis ac Ysgol Uwchradd Hawthorn. Rydw i wedi byw ar Ebenezer Street, Ynyslyn Road ac ar hyn o bryd ar Glyn Dwr Avenue.
Rwyf wedi gweithio mewn pob math o swyddi: o bentyrru silffoedd yn Iceland, gweithio y tu ôl i'r bar yn yr Hawthorn Inn, delio â chwynion yn O2, i weithio yn y Cynulliad Cenedlaethol. Rwyf wedi gweithio ar faterion polisi, yn enwedig ar dai ac addysg ac mae gen i ddealltwriaeth dda o ba mor bwysig yw'r materion hyn i'n lles a'n potensial. Sefais hefyd yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 dros Bontypridd ac rwyf wedi ymgyrchu ledled Cymru ar amrywiaeth eang o faterion.
Byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr eich cefnogaeth a'ch adborth trwy'r arolwg hwn ynghylch sut yr hoffech weld ein cymuned yn gwella yn y blynyddoedd i ddod.
Os hoffwch helpu i ethol Chad, cofrestrwch yma