Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Rhondda Cynon Taf neithiwr (25 Tachwedd), pleidleisiodd Cynghorwyr Llafur yn unfrydol yn erbyn ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd a ddinistriodd gymunedau ar draws y sir yn gynharach eleni.
Wrth ymateb i gynnig a gyflwynwyd gan Gynghorwyr Plaid Cymru, cyflwynodd y grŵp Llafur welliant a newidiodd ei ystyr yn llwyr gan ddileu cefnogaeth i ymchwiliad a dileu cyfeiriad at y ffaith nad oes unrhyw adroddiad ar hyn o bryd yn mynd i'r afael â'r effaith ar iechyd meddwl trigolion, na chwaith yr effaith economaidd a chymdeithasol sy’n parhau.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan AS Pontypridd Mick Antoniw a'r AS Alex Davies Jones, nid oes unrhyw gyfeiriad at ymchwiliad annibynnol nac unrhyw ymrwymiad i graffu ymhellach ar yr hyn a aeth o'i le a pham. Mae hyn yn groes i gefnogaeth y Blaid Lafur i Ymchwiliad Annibynnol o'r Llifogydd yn Lloegr, a gefnogwyd gan holl ASau Llafur Cymru sy'n cynrychioli etholaethau yn Rhondda Cynon Taf.
Wrth ymateb i'r adroddiad, a phleidlais y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Heledd Fychan ac ymgeisydd Plaid Cymru yn y Senedd dros Bontypridd:
"Mae hyn yn gwbl ragrithiol o’r Blaid Lafur, wrth iddynt geisio atal ymchwiliad annibynnol sy’n gyfangwbl angenrheidiol. Nid yw'r adroddiad yn darparu unrhyw atebion i'r rhai effeithwyd gan y llifogydd, nac unrhyw sicrwydd y bydd eu cartrefi a'u busnesau'n ddiogel yn y dyfodol.
"Rhaid i ni gael ymchwiliad annibynnol, fel mater o frys i ddeall beth aeth o'i le a pham, i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol ac i sicrhau buddsoddiad ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd a sicrhau mwy o gymorth i drigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt, neu sydd mewn perygl o lifogydd yn y dyfodol.
"Mae bywydau wedi cael eu chwalu, ac mae'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn haeddu cael eu lleisiau a'u profiadau wedi eu clywed. Maent hefyd yn haeddu llawer mwy o gefnogaeth ac nid yw hyn yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd."
Ar 9 Rhagfyr, bydd y Senedd yn trafod a ddylid cynnal ymchwiliad annibynnol. Sicrhawyd hyn ar ôl i bron i 6000 o bobl gefnogi deiseb a gychwynnwyd gan y Cynghorydd Fychan, yn galw am ymchwiliad annibynnol, ac mae'n seiliedig ar dystiolaeth a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Roedd hyn yn cynnwys y dystiolaeth gan bobl a busnesau yr effeithiwyd arnynt yn eu geiriau eu hunain, ac roedd yn dangos yn glir yr effaith barhaus fisoedd yn ddiweddarach.
Mae Cynghorwyr Plaid Cymru yn gofyn i drigolion helpu eu hymgyrch i sicrhau ymchwiliad annibynnol drwy e-bostio Aelodau'r Senedd a'u tagio ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ofyn iddynt bleidleisio o blaid ymchwiliad annibynnol gan ddefnyddio #Cyfiawnder #LlifogyddRhCT. Maent hefyd wedi lansio deiseb arall i gefnogi ymchwiliad annibynnol.