Gwion Rees a Steven Owen - Llanilltud Faerdref

Steve_Owen_and_Gwion_Rees_hedge_for_website.jpgSteven Owen

Rwy'n falch iawn o fod wedi byw yn Llanilltud Faerdref trwy gydol fy mywyd. Es i i Ysgol Bryn Celynnog, Prifysgol Morgannwg ac yna i Abertawe i wneud Gradd Feistr. Rwy'n gynorthwyydd dysgu, yn gweithio'n rhan amser fel gofalwr i ddyn lleol ac yn diwtor. Fel rhywun yn y byd addysg, rydw i mor falch o glywed Plaid Cymru yn addo na fyddan nhw'n cyflwyno taliadau ar gyfer teithio i'r ysgol.

Yn fy amser sbar rwy'n gwirfoddoli i amgueddfa yn y Barri gan weinyddu eu gwefan. Wrth deithio ar hyd a lled y De, rwy'n gweld ardaloedd eraill yn ffynnu, a'n cymuned ni yn cael ei hanghofio. Mae angen buddsoddi yn yr ardal, ac mae angen gwneud defnydd o dai a siopau gwag. Rwy'n teimlo'n angerddol am ein cymuned ac ae gweld stadau tai mawr yn cael eu hadeiladu ar gaeau gwyrdd, yn erbyn ewyllus y bobl leol a heb fuddsoddiad mewn gwasanaethau lleol, yn fy siomi.

Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu datblygiad Ystrad Ferwig Isaf oherwydd pryderon am lifogydd. Byswn wrth fy modd yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Laniltud Faerdref, ac yn fwy cyffredinol i Rhondda Cynon Taf. Gyda'n gilydd, mi allwn sicrhau y newid sydd ei angen ar yr ardal hon ar Fai'r 4ydd.

 

Gwion Rees

Rwy’n byw yn Efail Isaf ac fel dyn busnes rwy’n deall pa mor bwysig yw cynllunio ariannol da a sicrhau fod y bunt yn mynd ymhellach. Mae pawb yn deall y pwysau sydd ar gyllidebau’r cynghorau a’r effaith ar wasanaethau a threth y cyngor. Yr hyn nad ydym yn deall yw pam bod cyflogau yr such swyddogion mor uchel pan mae gwasanaethau yn cael eu torri. Mae prif weithredwr cyngor RhCT yn ennill cyflog o £142,000 y flwyddyn - tua’r un peth a’r Prif Weinidog. Mae Prif Weithredwr cynghorau sy’n cael eu harwain gan y Blaid tua £22,000 yn is. Penderfynwch chi pa blaid sydd ar ochr y bobl. Mi fydd Plaid Cymru yn rhoi cap ar gyflogau uwch swyddogion ac yn gwrthod codiad cyflog i gynghorwyr.


Mae Plaid yn falch o’n cymuned. Dyna pam rydym am fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a baw cwn. Fel tad i ddau o blant ifanc, rydw i hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd addewid Plaid i beidio a chyflwyno taliadau ar gyfer teithio i’r ysgol.

Os ydych eisiau dyfodol gwell i Lanilltud Faerdref ac Efail Isaf, yr unig blaid sy’n gallu sicrhau y newid sydd ei angen yw Plaid Cymru. Rydym wedi ennill mwyafrif y seddi yn y gorffennol ac mi wnawn ni hynny eto gyda’ch cefnogaeth chi ar Fai’r 4ydd.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.