Cynghorwyr Plaid Cymru’n canmol yr ysbryd cymunedol yn dilyn y glanhau wedi’r llifogydd

EQ-INfFXYAA3tm4.jpg

Mae’r ysbryd cymunedol ar ôl y llifogydd ym Mhontypridd wedi cael ei ddisgrifio fel rhyfeddol gan Heledd Fychan ac Eleri Griffiths, Cynghorwyr Plaid Cymru. 

Mae’r cynghorwyr wedi bod yn gweithio’n ddi-daw gyda’u cymunedau yn glanhau ar ol y llifogydd dinistriol achoswyd gan Storm Dennis.

Dywedodd Heledd Fychan, Cynghorydd Ward Tref Pontypridd:  

“Mae pawb wedi bod yn gweithio oriau maith am ddyddiau yn glanhau ar ôl y llifogydd. Nes eich bod yn gweld â’ch llygaid eich hun, anodd yw credu maint y difrod i gymaint o gartrefi, busnesau, parciau a strwythurau. Mae’r cyfan mor dorcalonnus. 

“Bydd hi’n cymryd llawer o fisoedd i bethau ddod yn ôl i drefn, ac mae cymaint o unigolion a theuluoedd yn ansicr ynghylch lle y byddent yn byw dros y misoedd nesaf tra bydd eu cartrefi’n cael eu hatgyweirio.  

“Er mai pennod hir fydd hon, mae’n rhyfeddol yr hyn sydd wedi’i gyflawni’n barod gan waith caled, diflino ac ymroddiad cymaint o wirfoddolwyr o’n cymuned a thu hwnt a hefyd yr holl roddion hael. Mae hi’n anrhydedd i fod yn rhan o uned gefnogi Canolfan Gymunedol Trallwn ac i weld y gwahaniaeth sy’n cael ei gyflawni wrth weithio gyda’n gilydd.  

“Roeddem mor ddiolchgar am y parseli bwyd dderbyniom ni a da o beth oedd creu’r drefn o fynd allan gyda bwyd I’r ardaloedd ddioddefodd.”  

Ychwanegodd Eleri Griffiths, Cyngorydd Sir Ward y Rhondda gyfagos:

“Yn fy ward i yn Nhrehafod mae’r gymuned wedi dioddef yn arw oherwydd y llifogydd, ond yr hyn sydd wedi bod yn galonogol yw’r ysbryd cymunedol rhagorol. Roedd llawer o’r trigolion yn brin o yswiriant i’w helpu i amnewid eu heiddo ac i atgyweirio’u tai, felly mae’r gymuned yn dod yng nghyd i’w cynorthwyo. Mae Plaid Cymru’n galw y Lywodraeth San Steffan i sicrhau bod yswiriant tai fforddiadwy ar gyfer pawb yng Nghymru. Ni ddylai unrhyw un fod mewn perygl o golli popeth oherwydd lleoliad eu cartref.”   

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.