Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi ei gadarnhau fel Arweinydd newydd Plaid Cymru.

Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi ei gadarnhau fel Arweinydd newydd Plaid Cymru.

Ar ei gadarnhad, dywedodd Mr ap Iorwerth fod arwain Plaid Cymru yn “anrhydedd” ac addawodd arwain plaid a fyddai’n cynnig “cartref i bawb sy’n uchelgeisiol ynglŷn â chreu cymdeithas decach, wyrddach, mwy llewyrchus [...] i’r rheini sydd eisoes yn hyderus neu’n chwilfrydig am annibyniaeth, ac sy’n benderfynol o danio’r chwilfrydedd hwnnw mewn eraill”.

Gan amlinellu ei weledigaeth o “economi gryfach, decach” ac ailadrodd ei ymrwymiad i weithredu argymhellion Prosiect Pawb, dywedodd Mr ap Iorwerth fod angen “Plaid Cymru gref” ar Gymru i adeiladu cenedl hyderus “gan weithio mewn partneriaeth ag eraill ond gyda’i dyfodol yn gadarn yn ei ddwylo ei hun.”

Llongyfarchodd Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru Llŷr Gruffydd Rhun ap Iorwerth ar ei gadarnhad a dywedodd y byddai Rhun yn “eiriolwr angerddol a phwerus dros Gymru a’i phobl”.

Ychwanegodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts AS ei bod yn edrych ymlaen at adeiladu “tîm unedig rhwng y Senedd a San Steffan” ac o flaen yr etholiad San Steffan nesaf, mai Plaid Cymru oedd “yr unig blaid sy’n cynnig dewis amgen gwirioneddol i’r 13 mlynedd o difrod economaidd a achoswyd gan y Torïaid”.

Ychwanegodd, gyda phrofiad Rhun, y gallai Plaid Cymru “herio record y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn effeithiol wrth gyflwyno cynnig beiddgar ar gyfer dyfodol economaidd a chyfansoddiadol Cymru”.

Ar ei gadarnhad, meddai Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Plaid Cymru

“Mae’n fraint cael fy nghadarnhau yn Arweinydd Plaid Cymru, y blaid sydd mor agos at fy nghalon. Nid ar chwarae bach yr wyf yn ymgymryd â chyfrifoldeb o’r fath.

“Byddaf yn arwain gydag angerdd, byddaf yn arwain yn wylaidd, ond yn bwysicaf oll byddaf yn arwain plaid sy’n cynnig cartref i bawb sy’n uchelgeisiol dros greu cymdeithas decach, wyrddach a mwy llewyrchus – cartref i’r rhai sydd eisoes yn hyderus neu’n chwilfrydig am annibyniaeth, a sydd yn benderfynol o geisio tanio’r chwilfrydedd hwnnw mewn eraill.

“Yn dilyn cyfnod heriol i’r blaid, rwy’n benderfynol o ddysgu gwersi, gweithredu argymhellion Prosiect Pawb, a gosod seiliau newydd.

“Fy ngweledigaeth yw un o economi gryfach a thecach sy’n gallu cefnogi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy a’n galluogi Cymru i wireddu ei llawn botensial.

“Gyda’n gilydd gallwn greu cymunedau sy’n ffynnu, o Donteg yng nghymoedd y de ble y cefais fy ngeni i bwynt mwyaf gogledd Cymru yr wyf nawr yn ei gynrychioli. Byddwn yn gwneud hynny drwy frwydro dros gydraddoldeb, rhoi’r un cyfle i bawb lwyddo, ac ailddosbarthu cyfoeth a chyfle ar bob ffurf. 

“Mae ar Gymru angen Plaid Cymru gref os ydym am adeiladu cenedl hyderus sy’n gweithio mewn partneriaeth gydag eraill ond gyda’i dyfodol yn gadarn yn ei dwylo ei hun.

Ychwanegodd Llŷr Gruffydd, cyn Arweinydd dros-dro y Blaid,

“Llongyfarchiadau gwresog i Rhun ap Iorwerth ar ddod yn Arweinydd newydd Plaid Cymru.

 “Rwy’n gwybod y bydd Rhun yn lais angerddol a phwerus dros Gymru a’i phobl.

 “Gyda’i allu i fynegi gweledigaeth rymus o sut y gall ein cenedl wireddu ei llawn botensial, gwn fod Rhun yn deall beth sy’n bwysig i bobl Cymru, boed hynny’n economi decach, mwy ffyniannus neu’n wasanaeth iechyd gwydn, mwy effeithlon.

 “Wrth symud ymlaen gyda’n gilydd o dan arweiniad Rhun, mae’n bwysicach nag erioed i ni amlygu’r tair blynedd ar ddeg o reolaeth dinistriol gan y Ceidwadwyr yn San Steffan a chamreolaeth Llafur o wasanaethau allweddol yng Nghymru. Ar yr un pryd, gwn y bydd Rhun yn cyflwyno llwyfan polisi uchelgeisiol i arwain Cymru ar y daith i annibyniaeth.

 “Wrth i fy nghyfnod fel Arweinydd Dros Dro ddirwyn i ben, rwyf wedi fy nghalonogi gan y cynnydd a wnaed eisoes wrth weithredu argymhellion ‘Prosiect Pawb’ a gwn y bydd Rhun yn blaenoriaethu cwblhau’r gwaith pwysig hwn.”

Meddai Liz Savillle Roberts AS, Arweinydd y Blaid yn San Steffan,

“Llongyfarchiadau gwresog i Rhun ap Iorwerth wrth iddo ddechrau yn ei rôl fel arweinydd newydd Plaid Cymru. Wrth inni adeiladu tîm unedig rhwng y Senedd a San Steffan, edrychaf ymlaen at weithio’n agos gydag o, gan ddod â lleisiau o bob rhan o’r blaid ynghyd yn ein harweinyddiaeth. 

  “Wrth i ni agosáu at etholiad cyffredinol tyngedfennol, Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n cynnig dewis amgen gwirioneddol i 13 mlynedd o ddifrod economaidd gan y Torïaid. Gyda phrofiad Rhun, gallwn herio record y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn effeithiol wrth gyflwyno cynnig beiddgar ar gyfer dyfodol economaidd a chyfansoddiadol Cymru.

 “Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithredu argymhellion adroddiad Nerys Evans ar frys, gan sicrhau ein bod yn llwyr barod ar gyfer yr etholiad cyffredinol sydd i ddod. Mae gan Gymru botensial aruthrol sydd wedi’i wastraffu gan bleidiau San Steffan. Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd â gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru decach, fwy llewyrchus a blaengar. Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda Rhun i wireddu’r weledigaeth honno.”

Meddai Marc Jones, Cadeirydd y Blaid,

 “Llongyfarchiadau mawr i Rhun ap Iorwerth ar ddod yn arweinydd - mae'n mynd i fod yn gyfnod prysur wrth i ni baratoi ar gyfer cyfres o etholiadau allweddol dros y blynyddoedd nesaf. Dwi'n edrych ymlaen i gyd-weithio efo fo a'r tîm arweinyddol er mwyn sicrhau llwyddiant i'r Blaid ymhob un o'r etholiadau hynny ac i sicrhau gwell dyfodol i Gymru. Mae yna waith hefyd i'w wneud er mwyn sicrhau fod Prosiect Pawb yn cael ei weithredu'n llawn a bod y Blaid yn lle diogel i bawb. Mae'r gwaith i wireddu hynny wedi cychwyn a byddaf yn annog yr Arweinydd i roi ei gefnogaeth lawn i'r fenter yna.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.