Lansio deiseb i Ddiogelu Dyfodol Meddygfa Cilfynydd
Yr wythnos hon mae’r Cynghorydd Hywel Gronow wedi derbyn cadarnhad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod Taff Vale Practice wedi gwneud cais i gau cangen Cilfynydd. Bwriad y Bwrdd Iechyd yw cynnal ymarfer ymgysylltu â chleifion am 6 wythnos gan gysylltu â phob claf dros 15 oed sy’n byw yn ward Cilfynydd dros yr wythnosau nesaf i roi cyfle i leisiau lleol gael eu clywed.
Tra’n annog pawb sy’n cael eu heffeithio gan y cynnig i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, mae Cynghorydd Gronow hefyd wedi lansio deiseb i geisio sicrhau dyfodol y feddygfa, gyda’r bwriad o’i chyflwyno i’r bwrdd iechyd. Gellir llofnodi'r ddeiseb yma neu drwy gopi papur.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Cynghorydd Gronow: “Mae’r newyddion hwn yn hynod siomedig a gwn y bydd llawer o bobl yng Nghilfynydd yn bryderus.
“Ers misoedd, rydw i wedi bod yn galw am sicrhau dyfodol y feddygfa gan fy mod yn gwybod pa mor bwysig yw’r gwasanaeth i’n cymuned.
“Dros yr wythnosau nesaf, mae’n bwysig bod ein lleisiau’n cael eu clywed gan y Bwrdd Iechyd er mwyn i’r feddygfa gael ei hachub.”