Fe gyrhaeddodd yr ymgyrch i achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol y Glam y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd heddiw. Anerchwyd y cyfarfod gan Adam Price a Leanne Wood o Plaid Cymru.
Galwodd llawer o siaradwyr am ddiswyddo'r Gweinidog Iechyd am ei fethiant i ymyrryd yn y cynlluniau i israddio'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Dywedodd Chad Rickard o Rhydyfelin:
"Mae'r adran damweiniau ac achosion brys yn Llantrisant yn rhan hanfodol o'r gwasanaethau iechyd ar gyfer RhCT. Mae'r cynlluniau a gyflwynwyd gan y Bwrdd Iechyd yn peryglu bywydau."
"Mae'r ymgyrch i achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn denu cefnogaeth gan bawb ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac mae hynny'n hanfodol os ydym am achub yr adran ond mae methiant y Gweinidog Iechyd i gamu i'r adwy gyda'r Prif Weinidog yn ymwrthod ag unrhyw gyfrifoldeb yn gywilyddus."
"Rhaid i ni gadw'r pwysau ar y Bwrdd Iechyd a'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd."
Llofnodwch ein deiseb yma: https://www.saveroyalglam.wales/join
Wrth annerch y tu fas i’r Senedd ym Mae Caerdydd dywedodd Mr Rickard; “Deliodd Uned Frys a Damweiniau Ysbyty Brenhinol Morgannwg â 5,000 o bobl yn ystod mis Rhagfyr. Mae cymaint ohonom â phrofiad personol o ddefnyddio’r ddarpariaeth, ac wrth gael gwared â’r gwasanaeth bydd yn ein taro’n chwerw. Mae aelodau o’m teulu wedi cael eu trin pedair gwaith yn y chwe mis diwethaf yn unig.
“Mae llawer wedi anelu eu dicter at y bwrdd iechyd lleol, ond yn y pen draw, penderfyniad gwleidyddol yw hwn; mae’r cyfrifoldeb am Wasanaeth Iechyd Cymru yn nwylo Llywodraeth Lafur Cymru.
“Maent yn atebol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er cymaint y maent yn gwadu nad ydynt yn rhan o gwbl o’r broses. Maent â’r gallu nawr i achub y gwasanaeth pe byddent yn fodlon ymyrryd.
“Y mae’n bwysig i bawb i wneud eu rhan i warchod ein darpariaeth yn yr adran frys a damweiniau, a da yw gweld yr ymgyrch yn cael ei chynnal mor frwd gan bobl o bob cwr o sir Rhondda Cynon Taf ac ymhellach.”
“Os ydych am weld y gwasanaethau yn gwella yn Ysbyty Morgannwg yn hytrach na chael eu dirymu, yna anfonwch e-bost neu neges Facebook at eich AC, AS a Bwrdd Iechyd Cwm Taf er mwyn gadael iddynt wybod beth yw eich barn. Mae’n bwysig i ni ddal i bwyso arnynt.”
Llofnodwch ein deiseb yma: https://www.saveroyalglam.wales/join