Buddugoliaeth i Ymgyrchwyr wrth i Adolygiad Barnwrol roi terfyn ar Gynlluniau Ad-drefnu Ysgolion Dadleuol
Yn gynharach heddiw, 30 Gorffennaf 2020, cyhoeddwyd bod Barnwr Uchel Lys wedi dyfarnu yn erbyn cynlluniau ad-drefnu dadleuol ysgolion a gynigiwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n cael ei reoli gan y Blaid Lafur.
Mewn nodyn ar Facebook yn dilyn y cyhoeddiad, ysgrifennodd Heledd Fychan, y Cynghorydd Sir dros Dref Pontypridd ac ymgeisydd Pontypridd ar gyfer y Senedd, sydd wedi bod yn rhan ganolog o'r ymgyrch:
"Hoffwn dalu teyrnged i’r ymgyrchwyr, sydd wedi herio yn llwyddianus Cyngor Rhondda Cynon o ran eu cynlluniau i ad-drefnu ysgolion ym Mhontypridd. Mawr obeithiaf y bydd y Cyngor yn dysgu gwersi pwysig o hyn, ac yn cymryd y cyfle i wrando ar y gwrthwynebiadau, y pryderon a’r syniadau amgen wrth ail-feddwl y cynlluniau. Mae cyfle rwan i wneud rhywbeth gwahanol, fydd yn diwallu anghenion ein plant a’n pobl ifanc a gwn bydda’i y gymuned yn hapus i weithio gyda’r Cyngor ar ddatblygu y cynlluniau hynny."