Mae Scott Bevan wedi dewis i sefyll yn is-etholiad ar gyfer ward Llanilltud Faerdref.
Dywedodd Scott Bevan: “Dw i’n falch o gael fy newis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr is-etholiad ar Ddydd Iau 22ain Mehefin i ddewis cynghorydd newydd ar gyfer ein cymuned.
“Safais i y llynedd am y tro cyntaf ar gyfer y Cyngor Sir. Mae angen dechrau o'r newydd yn ward Llanilltud Faerdref.
“Prif thema fy ymgyrch yw cysylltu ein cymuned, sy'n golygu pobl a lleoedd.
“Byddaf yn ymgyrchu dros welliannau i fannau cymunedol a digwyddiadau lleol newydd, ynghyd â chynnal ein cysylltiadau trafnidiaeth fel gwasanaethau bysiau, a gwneud ein strydoedd yn ddiogel.
“Os caf fy ethol, byddaf yn ymuno â thîm cynghorwyr sir a chymuned Plaid Cymru ar draws Rhondda Cynon Taf a byddaf yn gallu gweithio gyda nhw ac AS Canol De Cymru, Heledd Fychan ar y materion hyn.”
“Dw i'n byw yn lleol gyda hanes o wasanaeth cyhoeddus. Dw i'n credu mewn hyrwyddo ein cymuned i sicrhau mai dyma'r lle gorau i deuluoedd ifanc ffynnu.”
Mae Scott Bevan yn gweithio ym maes datblygu meddalwedd a Technoleg Gwybodaeth.