Pleidleisiwyr Tro Cyntaf
Mis Mai eleni, mae Cymru'n ymuno â rhestr gynyddol o wledydd lle gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau. Mae'r Alban wedi bod yn gwneud hyn ers nifer o flynyddoedd bellach ac erbyn hyn mae'n digwydd yma yng Nghymru o'r diwedd!
Gall dewis pwy i'w gefnogi fod yn anodd. I'ch helpu i benderfynu, yma ar y dudalen hon mewn peth gwybodaeth am Blaid Cymru a'n hymgeisydd yma ym Mhontypridd, Heledd Fychan. Mae gwybodaeth hefyd am gyfarfodydd ar-lein wedi'u trefnu'n benodol ar gyfer pleidleiswyr tro cyntaf fel y gallwch drafod y materion sy'n bwysig i chi'n uniongyrchol gyda Heledd.
Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd, ac ers 2017, mae wedi cynrychioli'r dref ar Gyngor RhCT a Chyngor Tref Pontypridd. Mae wedi gweithio'n ddiflino gyda, ac ar ran, pobl o bob oed ar nifer o ymgyrchoedd gan gynnwys sicrhau mwy o ddarpariaeth clybiau ieuenctid, cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion a cholegau i roi terfyn ar dlodi mislif, a chadw dosbarthiadau chweched dosbarth yn ardal ehangach Pontypridd. Mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn flaenoriaeth allweddol iddi, ac mae wedi ymgyrchu i annog ein Llywodraeth i gymryd camau brys i achub ein planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hi hefyd wedi arwain galwadau am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd 2020, fel y gallwn ddeall yn well effaith newid hinsawdd ar lifogydd yng Nghymru a sicrhau cyfiawnder i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Mae Heledd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac eisiau gweld penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. Mae wedi cael llond bol ar weld mwy a mwy o anghydraddoldeb yn ein cymdeithas, ac mae'n credu bod arnom angen Llywodraeth sy'n creu Cymru fwy cyfartal, i bawb. Plaid Cymru yw'r unig blaid sy'n sefyll yn yr etholiad hwn a fydd yn ymgyrchu dros annibyniaeth ac yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth, fel y gall pobl Cymru benderfynu ar ddyfodol ein cenedl.
Er mwyn i chi gael cyfle i siarad â hi'n uniongyrchol, mae Heledd wedi trefnu nifer o gyfarfodydd yn benodol ar gyfer pleidleiswyr newydd ynghyd ag Efan Fairclough, a oedd tan yn ddiweddar yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Digwyddodd y cyntaf ar 25 Mawrth, ac roedd y pynciau'n cynnwys yr argyfwng hinsawdd, dyfodol addysg, gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc, anghydraddoldeb a chyflogaeth. Er bod nifer o fynychwyr wedi rhannu eu barn ac wedi gofyn cwestiynau, roedd eraill wedi dim ond gwrando. Mae croeso mawr i chi ymuno ag un o'r ddau o sesiynau sy'n weddill:
Archebwch nawr ar gyfer 8fed o Ebrill - 5.30pm: Click here to go to Eventbrite
(Mae angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn)
Archebwch nawr ar gyfer 22ain o Ebrill - 5.30pm: Click here to go to Eventbrite
(Mae angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn)
Fel arall, mae croeso i chi gysylltu'n uniongyrchol â Heledd gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych naill ai drwy'r cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bostio [email protected]
Cysylltwch â ni hefyd os hoffech gefnogi'r ymgyrch.
Cyfiawnder i Ddioddefwyr Llifogydd
Ar nos Chwefror 15fed 2020 cafodd rhannau helaeth o RhCT eu taro gan Storm Dennis.
Roedd Storm Dennis yn storm wynt Ewropeaidd a ddaeth, ym mis Chwefror 2020, yn un o'r seiclonau allwthiol dwysaf a gofnodwyd erioed, gan gyrraedd isafswm pwysau canolog o 920 o filibarau (27.17 modfedd o arian byw) [https://en.wikipedia.org/wiki/Storm_Dennis]
Ar draws RhCT, roedd dros 1,000 o eiddo wedi dioddef llifogydd. Yn Etholaeth Pontypridd, dioddefodd trigolion Pontypridd, Trefforest a Ffynnon Taf lifogydd eithafol.
Roedd y difrod yn helaeth i dai, busnesau a seilwaith trafnidiaeth.
Achub HSBC ym Mhontypridd a Tonysguboriau
Mae ein Trefi yn dioddef ergyd ar ôl ergyd.
Mae Pontypridd wedi dioddef llifogydd dinistriol ac yna Covid-19 a thrwy'r amser yn ceisio gwrthsefyll y gystadleuaeth annheg gan ganolfannau manwerthu y tu allan i'r dref. Mae'r symudiad i fancio ar-lein yn fyd-eang ond mae angen ein gwasanaethau yn ein trefi arnom ni fel cymuned.
Byddai cau'r ddau fanc HSBC hyn yn Tonysguboriau a Pontypridd yn ergyd arall.
Gweithredwch nawr - llofnodwch y ddeiseb yma.
Nadine Marshall - Heddlu De Cymru
Cafodd Nadine Marshall ei geni a’i magu ym Mro Morgannwg. Mae’n siarad Cymraeg, ac y mae Nadine yn byw gyda’i theulu yn y Barri, a chanddi 3 o blant ac 1 wŷr.
Cyn cyfnod o weithio fel cydlynydd addysgol ar draws de-ddwyrain Cymru, bu Nadine yn gweithio fel darlithydd mewn addysg a gofal plant.
Cofrestru
Pam ddylwn i gofrestru i bleidleisio?
Os nad ydych yn cofrestru, ni allwch bleidleisio!
Os nad ydych yn cofrestru, ni allwch bleidleisio - mae mor syml â hynny.
Pleidlais Bost
Hoffwch chi fod ar y tîm buddugol?
Ar draws y wlad mae mwy a mwy o bobl yn cofrestru ar gyfer pleidlais drwy’r post.