Am y tro cyntaf yn Nghymru, bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai.
Mae dewis pwy i'w gefnogi yn benderfyniad mawr.
I helpu gyda hyn, mae Heledd Fychan, ein hymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Senedd, wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ar gyfer pleidleiswyr tro cyntaf.
Os wyt ti'n 16,17 neu'n 18 oed ac yn pleidleisio am y tro cyntaf, bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle iti drafod y materion sy'n bwysig i ti yn uniongyrchol gyda Heledd a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennyt am Blaid Cymru, a pholisïau'r blaid. Mae croeso i ti hefyd ddod i wrando heb unrhyw bwysau i gymryd rhan.
Bydd y pynciau'n cynnwys addysg, yr argyfwng hinsawdd, cyflogaeth, effaith Covid ar bobl ifanc, annibyniaeth a llawer, llawer mwy. Bydd Efan Fairclough yn ymuno â Heledd, a oedd tan yn ddiweddar yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
1. Archeba nawr i ddod i'r cyfarfod ar 25 Mawrth - 5.30pm: https://www.eventbrite.co.uk/.../raise-your-voice...
2. Archeba nawr i ddod i'r cyfarfod ar 8 Ebrill - 5.30pm: https://www.eventbrite.co.uk/e/raise-your-voice-pontypridd-senedd-election-coda-dy-lais-tickets-146507659353
3. Archeba nawr i ddod i'r cyfarfod ar 22 Ebrill - 5.30pm: https://www.eventbrite.co.uk/.../raise-your-voice...
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?