Mae'r ddeiseb hon bellach wedi'i chyflwyno gan y Cyng Heledd Fychan i RCT.
Diolch am eich cefnogaeth.
Angen gwella diogelwch ac ansawdd aer ar Ffordd Berw nawr
Rydym ni, trigolion Berw Road a strydoedd cyfagos, yn galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i fynd i’r afael ar frys â nifer o faterion sy’n effeithio ar Ffordd Berw yn hanesyddol ac ers llifogydd 2020. Mae hyn yn cynnwys:
1) Cymryd camau brys i atgyweirio'r Bont Wen, fel y gall ailagor i draffig dwyffordd cyn gynted â phosibl.
2) Nodi ffyrdd o leihau llygredd aer a dod o hyd i atebion i leihau faint o draffig sydd ar y ffordd.
3) Buddsoddi mewn mesurau tawelu traffig a mannau croesi diogel, er mwyn cynyddu diogelwch i breswylwyr.
4) Sicrhau fod gatiau llifogydd neu ddrysau atal llifogydd yn cael eu darparu i bob cartref a ddioddefodd llifogydd o'r arian a ddyrannwyd i Gyngor RhCT gan Lywodraeth Cymru.
![]() |