Mae Plaid Cymru yn beirniadu Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dilyn y cyhoeddiad eu bod yn apelio yn erbyn dyfarniad yn yr uchel lys
Ar Fedi 24ain 2020, cyhoeddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf y byddent yn apelio yn erbyn canlyniad yr Adolygiad Barnwrol parthed ad-drefnu a fyddai wedi gweld ysgolion a dosbarthiadau chweched dosbarth yn cau, ac a fyddai'n cael effaith mawr ar fynediad cyfartal i addysg Gymraeg.
Mae Plaid Cymru yn galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru i roi gorau i'w hapêl ac yn hytrach ymgysylltu â chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau amgen, yn hytrach na dilyn y camau costus hyn.
Dywedodd y Cynghorydd dros Dref Pontypridd a'r Ymgeisydd ar gyfer y Senedd, Heledd Fychan
"Rwyf yn hynod o siomedig gyda penderfyniad Cyngor RhCT a Gweinidogion Cymru i apelio hyn. Yn hytrach na gwastraffu arian yn brwydro hyn, dyla’i y Cyngor fod yn gweithio gyda cymunedau lleol i ddatblygu cynigion amgen."
"Ynghŷd â ymgyrchwyr lleol, byddaf yn parhau i ymladd dros yr hyn sy'n iawn ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru a dyfodol y Gymraeg."