Grwp Senedd Plaid Cymru
Mae'r Cynghorydd Pontypridd, Heledd Fychan yn ymuno â Grŵp Plaid Cymru yn Senedd Cymru.
Maniffesto 2021
Mae Plaid Cymru yn cynnig rhaglen lywodraethol wirioneddol radical ac uchelgeisiol, ynghyd ag addewid i roi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru.
Bydd ein maniffesto yn mynd i'r afael â phroblemau'r pandemig blaenorol yng Nghymru; cyflogau isel, tlodi plant, a diffyg cyfle.
Nid oes unrhyw beth am Gymru heddiw yn anochel, nid oes unrhyw broblemau na allwn eu datrys drosom ein hunain.
Cronfa llifogydd £500m Plaid i helpu cymunedau a adawyd ar ôl gan Lafur
Byddai llywodraeth Plaid, pe bai’n cael ei hethol ar Fai 6ed, yn ymrwymo £500m i wella amddiffynfeydd llifogydd Cymru gan gefnogi’r cymunedau “a adawyd ar ôl gan Lafur” dros y blynyddoedd diwethaf.
Mewn ymrwymiad arloesol, dywedodd AS Plaid Cymru ar gyfer y Rhondda Leanne Wood fod stormydd mawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dinistrio cartrefi yn ei chymuned, Pontypridd, ac mewn sawl ardal arall yng Nghymru o Llanrwst i Gaerffili.
Beirniadodd y Cynghorydd Heledd Fychan, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Pontypridd, Lafur am wrthwynebu ymchwiliad annibynnol i lifogydd difrifol yn y Cymoedd, gan ddweud y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cywiro “dull tameidiog” Llafur o atal llifogydd gyda buddsoddiad ystyrlon.
Deddf Natur i "daclo argyfwng bioamrywiaeth"
Heddiw, mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llyr Gruffydd AS, wedi cyhoeddi y byddai ei blaid yn cyflwyno Deddf Natur arloesol pe bai'n ennill yr etholiad ym mis Mai i fynd i'r afael â'r "argyfwng bioamrywiaeth" sy'n wynebu Cymru.
Dywedodd Llyr Gruffydd fod yr argyfwng cynyddol yn tanseilio'r gwasanaethau hanfodol a ddarperir i gymdeithas yn ôl natur – bwyd, aer a dŵr glân, deunyddiau, meddygaeth a mwy – a bod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru bellach dan fygythiad o ddifodiant.
Coda dy Lais! Lansio Digwyddiadau Pleidleiswyr #TroCyntaf
Am y tro cyntaf yn Nghymru, bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai.
50 diwrnod tan etholiad y Senedd
Cynllun Adfer Addysg
Mae Plaid Cymru wedi lansio ei Chynllun Adfer Addysg, wrth iddi ddod i'r amlwg bod plant yng Nghymru wedi colli tua hanner blwyddyn o ddysgu yn ystod y pandemig.
Wrth siarad yn Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru, amlinellodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Siân Gwenllian AS ei chynlluniau i helpu pob plentyn, person ifanc ac ysgol i wella ar ôl COVID-19.
#Pleidlais16!
Mae'n wythnos #Pleidlais16! Ym mis Mai am y tro gynaf erioed mae pobl ifanc 16 ac 17 yn gallu pleidleisio! Cofiwch gofrestru!