Llythyr i HSBC
Yn gynharach wythnos yma, ynghyd a LeanneRhondda ysgrifennais at HSBC i erfyn arnynt i ail-feddwl cau cangen Pontypridd a Tonysguboriau. Mae’n wasanaeth hanfodol i drigolion a busnesau.
Gweithredwch nawr - llofnodwch y ddeiseb yma.
Fresh concern over flooding
A Message from Cllr Heledd Fychan on the morning of the 20 January.
"Cydymdeimlo'n fawr gyda cymunedau ledled Cymru sydd wedi dioddef llifogydd eto. Mae'n warthus bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymchwiliad annibynnol, fel y gwnaeth ein Aelod Seneddol a'n Aelod o'r Senedd, gan fod angen i ni ddysgu gwersi o lifogydd blaenorol i ddeall y perygl o lifogydd yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn mesurau atal llifogydd. Byddaf yn parhau i ymgyrchu dros gyfiawnder i'r rhai yr effeithiwyd arnynt, ac rwy'n falch bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i ymchwiliad os ydym yn arwain Llywodraeth nesaf Cymru."
"Mae pobl eisiau gwybod pryd y gallen nhw dderbyn y brechlyn"
Plaid Cymru yn galw am y tryloywder mwyaf posibl i feithrin ymddiriedaeth, a chwestiynu'r system apwyntiadau mewn llythyr agored at y Gweinidog Iechyd
“Pleidleisiwch o blaid Cymru” – Llywodraeth uchelgeisiol newydd ar gyfer amseroedd cyfnewidiol
Plaid Cymru yn dadorchuddio slogan etholiadol gan addo i adleisio "ysbryd '99"
"Angen cynllun adfer addysg cynhwysfawr ar frys"
Siân Gwenllian AS yn galw am gynllun dal i fyny clir i ddisgyblion yn dilyn misoedd o addysg goll
Llygredd aer ar Heol Berw
"Cam mawr tuag at fynd i'r afael â llygredd aer ar Heol Berw." Dyna oedd ymateb y Cynghorydd Heledd Fychan wedi derbyn y newyddion y bydd RhCT yn gosod cynllun monitro llygredd aer ar Heol Berw.
Adroddiad Cefnogi Dioddefwyr Llifogydd am Ymchwiliad Cyhoeddus yn Adroddiad Plaid Cymru
Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd mewn adroddiad Plaid Cymru yn edrych ar effaith ddinistriol llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn dangos cefnogaeth lawn i ymchwiliad cyhoeddus annibynnol.
Ymweliad Adam Price i Bontypridd
Ar dydd Gwener 27 o Dachwedd daeth Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru i weld etholaeth Pontypridd. Wnaeth ein Cynghorydd Heledd Fychan dangos e o gwpas, o Drefforest i Ganol Dre Pontypridd a wedyn draw i Donyrefail.
Rhagrith y Blaid Lafur wrth iddynt wadu Cyfiawnder i Ddioddefwyr Llifogydd
Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Rhondda Cynon Taf neithiwr (25 Tachwedd), pleidleisiodd Cynghorwyr Llafur yn unfrydol yn erbyn ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd a ddinistriodd gymunedau ar draws y sir yn gynharach eleni.
Mae Plaid Cymru yn galw ar y Cyngor i Ailfeddwl Apelio
Mae Plaid Cymru yn beirniadu Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dilyn y cyhoeddiad eu bod yn apelio yn erbyn dyfarniad yn yr uchel lys