Adolygiad Annibynnol Llifogydd 2020
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ganol De Cymru Heledd Fychan – a oedd yn Gynghorydd dros Ward Tref Pontypridd pan darodd Storm Dennis ym mis Chwefror 2020 yn croesawu’r adolygiad.
“Dros ddwy flynedd ers y dinistr yn 2020, nid yw pob adroddiad i’r llifogydd wedi’i gyhoeddi ac nid yw trigolion a pherchnogion busnes yn gwybod o hyd beth ddigwyddodd na pham, nac a fydd eu cartrefi a’u busnesau yn ddiogel rhag llifogydd yn y dyfodol.” meddai hi.
Diolch
Diolch i bawb a bleidleisiodd dros ymgeiswyr Plaid Cymru ar draws RhCT.
Ym Mhontypridd fe wnaethom gadw’r seddi a enillwyd gennym yn 2017 a chynyddu nifer Cynghorwyr Tref a Chymuned Plaid Cymru.
Daw’r map hwn o wefan Rhondda Cynon Taf a gallwch ddysgu mwy am eich Cynghorydd ar Wefan RhCT yma.
Mae arweinydd Plaid Cymru yn RhCT yn dweud mai eu busnes nhw yw pobol cyn etholiadau'r cyngor ym mis Mai
(Erthygl fanwl gydag Arweinydd y Blaid yn Rhondda Cynon Taf, Pauline Jarman. Gweler yr erthygl wreiddiol Wales Online yma)
Climate change, coal tip safety, flooding and the cost of living crisis are some of Plaid Cymru’s key focuses ahead of next month’s council elections. Pauline Jarman, has laid out what the party’s priorities would be for RCT should they take control of the council after the election on May 5.
Covering a wide range of topics such as the cost of living crisis, education, coal tips and the environment, she said the first thing they’d do is look at the Covid review and how it affects children’s education which she said is a key consideration. Ms Jarman also said they’d focus on the mental health of children and the loneliness of the elderly post-pandemic.
Angen Ymgynghoriad Llawn ar Ddyfodol ein Tref
Yn dilyn yr ergydion y mae canol ein tref wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, megis cau Marks and Spencer a HSBC a dymchwel y Neuadd Bingo, heb sôn am Covid a llifogydd 2020, mae’n wych gweld cymaint o siopau bach, lleol yn agor yn y dref. Mae yna egni newydd a bywiog.
Plaid Cymru yn lansio ymgyrch RhCT 2022
Mae’r etholiad hwn yn digwydd yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol yn ein bywydau. Gobeithiwn ein bod o’r diwedd yn dod allan o’r pandemig sydd wedi achosi cymaint o loes a niwed i’n cymunedau dros y ddwy flynedd ddiwethaf ond fel y gwyddom, nid yw Covid, na’i effeithiau wedi llwyr ddiflannu.
Plaid Cymru yn Cyhoeddi Ymgeiswyr RhCT
Bydd Plaid Cymru yn sefyll 55 o ymgeiswyr ar draws RhCT yn etholiadau’r cyngor ar y 5ed o Fai. Yn Etholaeth Pontypridd, byddwn yn ymladd 19 sedd. Os ydych chi eisiau newid ar RhCT mae'r dewis yn glir, pleidleisiwch dros eich ymgeisydd lleol Plaid Cymru!
Agoriad Swyddfa Ranbarthol ym Mhontypridd
Dydd Sadwrn 2 Hydref, agorodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru i Blaid Cymru ei swyddfa ranbarthol yng nghanol tref Pontypridd.
Yn gwmpeini iddi oedd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, ac actifyddion lleol o bob rhan o'r rhanbarth.
Cynghorwyr Llanilltud Faerdre yng ngyddfau’i gilydd
‘Cynghorwyr Llanilltud Faerdre yng ngyddfau’i gilydd’
Mae mwy nag 20 o gwynion wedi cael eu hanfon at yr Ombwdsman ynghylch ymddygiad aelodau o gyngor cymunedol Cymreig dros gyfnod o 12 mis.
Drwy gais Rhyddid Gwybodaeth datgelodd yr ymgyrchydd Plaid Cymru a phreswylydd lleol, Ioan Belling y cwynion am Gyngor Cymunedol Llanilltud Faerdre oedd yn ymwneud ag atebolrwydd a chyfanrwydd, hyrwyddo cydraddoldeb a pharch at ddyletswydd i gynnal y gyfraith.
Is-Etholiad Tyn-Y-Nant
Mae Plaid Cymru yn lleol wedi dewis Ioan Bellin fel ymgeisydd yn yr isetholiad ward Tyn-Y-Nant.
Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, Gorffennaf 22ain.
Mae Ioan Bellin yn ymgyrchydd profiadol a brwdfrydig yn y gymuned leol. Mae wedi ymgyrchu i gadw llyfrgelloedd lleol, canolfannau hamdden a chartrefi gofal ar agor yng ngwyneb toriadau gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.